Cyfieithu
Cyfieithu ar y Pryd
Isdeitlo

Ein busnes, yn naturiol, yw trin iaith, a chyfieithu’n gywir y tro cyntaf yw ein camp.

O ddatganiadau i’r wasg i adroddiadau blynyddol, ac o gynadleddau i raglenni teledu, mae ein profiad digymar yn sicrhau’r gorau ac yn denu’r gorau i weithio gyda ni.

Rhaid deall ein gilydd i allu cyfathrebu’n effeithiol. A dyna yw ein dawn ni.

Seiri geiriau sy’n caru geiriau.

Mawr ond bach.

Mawr o ran profiad, ond yn ddigon bach i fod yn ofalus iawn o’n cleientiaid a’n staff.

Cyfieithu

Ie, iaith a geiriau sy’n mynd â’n bryd, ond mae geiriau’r byd yn ein cyfareddu.

Un peth yw cyfieithu, ond ein her ni yw peidio â cholli dim wrth gyfieithu.

O ddatganiad cenhadaeth i gytundeb cyfreithiol, mae ein timau ymroddedig o gyfieithwyr a golygyddion yn llowcio testun mewn dim o dro.

P’un ai ychydig eiriau sydd gennych i’w cyfieithu neu dudalennau lu o jargon astrus, dewch â’r gwaith i ni.

Rydym yn ysu i fynd i’r afael â geiriau.

Cyfieithu ar y pryd

Beth yw cyfieithu ar y pryd? I’w roi yn syml, chi sy’n siarad, ni sy’n cyfieithu. Yn y fan a’r lle.

Lle bynnag y bydd angen y clustffonau bach hynny – mewn cynhadledd, lansiad i’r wasg, gwrandawiad neu ddadl yn y Cynulliad – byddwn yno’n cyfieithu i chi.

Isdeitlo

Mae’n wir y gall fod yn hwyl i lunio’ch geiriau eich hun wrth wylio rhaglenni neu ffilmiau mewn iaith estron, ond gall isdeitlo agor byd cwbl newydd i chi o ran deall.

Heb frolio’n hunain gormod, ni oedd y cwmni cyntaf i isdeitlo rhaglenni Cymraeg i’r Saesneg pan gyflwynodd S4C ei wasanaeth 888. Ers hynny, mae rhaglenni y byddai llawer wedi’u troi i ffwrdd wedi dod yn rhaglenni sy’n gwneud i bobl droi’r teledu ymlaen i’w gwylio.  Ac mae’r un peth yn dod yn fwyfwy gwir am ein cleientiaid DVD corfforaethol.

Cysylltu â ni

Os hoffech chi fwy o wybodaeth am unrhyw un o’r gwasanaethau y gallwn eu cynnig neu os hoffech amcanbris, cysylltwch â ni ar 02920 750760 neu anfonwch e-bost at  ar unrhyw adeg.  Ry’n ni yma i helpu.

Trosol
Sophia House
28 Heol y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9LJ